Diwrnod cau 5/02/19
Cysylltwch â’r Swyddfa am fwy o fanylion a’r Ffurlen Cais: 01559 362403 neu info@dolenteifi.org.uk
DISGRIFIAD SWYDD
Swydd: Cydlynydd Prosiect
Cyflog: £22,000 y flwyddyn
Oriau: 35 awr yr wythnos
Tymor Contract: Cyfnod penodol am 3 blynedd.
(Bydd y swydd yn cynnwys gwaith achlysurol gyda’r hwyr ac ar benwythnosau a chaniateir amser yn rhydd yn gyfnewid am hyn).
Yn atebol i: Rheolwr Swyddfa a Bwrdd Cyfarwyddwyr Llandysul a Phont Tyweli Ymlaen
Canolfan Weithio Swyddfa Llandysul, gall fod cyfle i weithio o ganolfannau eraill
Trwydded Yrru: Trwydded lawn gyda hawl D1 yn hanfodol
Cymraeg: Dymunol
Teithio: Mynediad i gludiant yn hanfodol. Ad-delir treuliau teithio ar gyfer dyletswyddau a gymeradwywyd.
Gwyliau blynyddol: 25 diwrnod y flwyddyn yn ogystal â gwyliau cyhoeddus statudol
Cyfnod prawf: Tri mis
Nod: Bydd y prosiect yn darparu gwasanaeth cludiant cymunedol penodedig i grwpiau cymunedol yn Siroedd Caerfyrddin, Penfro a Cheredigion a darparu cymorth i weithredwyr cludiant cymunedol i ddatblygu eu gwasanaethau cludiant grwpiau eu hunain o fewn yr ardaloedd hynny.
Rolau & Chyfrifoldebau:
Hyrwyddo a datblygu nodau ac amcanion Llandysul a Phont Tyweli Ymlaen trwy ymestyn a datblygu cyfleoedd teithio newydd yn Siroedd Caerfyrddin a Cheredigion, gan helpu i leihau ynysu cymdeithasol.
Rheoli holl agweddau o ddydd i ddydd y prosiect gan gynnwys gwirfoddolwyr, recriwtio aelodau newydd, archebion y bws mini a goruchwylio cynnal a chadw y cerbydau.
Gweithio gydag ystod eang o bartneriaid i hyrwyddo a marchnata gwasanaethau’r prosiect.
Recriwtio gyrwyr gwirfoddol; trefnu a chyflwyno MIDAS (Cynllun Ymwybyddiaeth Gyrwyr Bws Mini) ac unrhyw hyfforddiant perthnasol arall.
Adnabod cyfleoedd cyllid i ddatblygu a rheoli ymhellach gynaladwyedd hir dymor y prosiect.
Sicrhau bod y prosiect yn cwrdd ag allbynnau, deilliannau a dangosyddion CSCDS (Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio) a nodir yn y cais am gyllid.
Datblygu gwasanaethau Cludiant Cymunedol grwpiau gan ei wneud yn hygyrch i ystod ehangach o sefydliadau cymunedol ac anabledd.
Integreiddio’r prosiect gyda chludiant cyhoeddus presennol, pryd bynnag mae hynny’n bosibl.
Trefnu cyflwyniadau a sgyrsiau ymwybyddiaeth i sicrhau bod y bysiau yn cael eu defnyddio gan bob sector berthnasol o’r gymuned.
Monitro a gwerthuso’r prosiect a darparu adroddiadau cynnydd i’r Bwrdd a’r sawl sy’n ariannu.
Darparu cymorth datblygu i weithredwyr cludiant cymunedol eraill i ddatblygu eu gwasanaethau cludiant grwpiau.
Trefnu Fforymau i randdeiliaid i fonitro’r prosiect.
Hyrwyddo cyfleoedd cyfartal.
DATGANIAD HYBLYGRWYDD
Mae cynnwys y Disgrifiad Swydd hwn yn cynrychioli amlinelliad o’r swydd yn unig ac felly nid yw’n gatalog manwl o’r dyletswyddau a chyfrifoldebau. Bwriedir y Disgrifiad Swydd felly i fod yn hyblyg ac mae’n atebol i’w adolygu a’i ddiwygio yn wyneb newid mewn amgylchiadau, yn dilyn ymgynghoriad gyda’r deilad swydd.Gellir ychwanegu tasgau eraill yn ôl disgresiwn y Bwrdd Cyfarwyddwyr.
POLISIAU A GWEITHDREFNAU
Disgwylir i’r gweithiwr ddarparu gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) a disgwylir iddo/iddi weithio o fewn polisiau a gweithdrefnau’r sefydliad.