|
Beth ydyn ni’n ei wneud? Sefydlwyd Dolen Teifi yn 2007 i fodloni anghenion trafnidiaeth arbennig preswylwyr Llandysul a’r Cylch. Defnyddir bysiau mini i gludo aelodau’r grŵp ar siwrneiau. Cefnogir y gwasanaeth gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Sir Ceredigion a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Pwy sy’n gallu defnyddio ein gwasanaeth? Mae’r gwasanaeth ar gael i grwpiau yn ardal Dyffryn Teifi. Dylai eich grŵp gyflenwi eich gyrrwr eich hun sydd wedi cael hyfforddiant MIDAS. Gellir gwneud trefniadau am hyfforddiant MIDAS rhad ac am ddim drwy swyddfa Llandysul a Phont Tyweli Ymlaen. Gweler Hyfforddiant Gyrwyr am ragor o fanylion Os nad oes gyrrwr gennych, mae gennym grŵp cynyddol o yrwyr gwirfoddol MIDAS a allai eich gyrru. Faint y bydd yn ei gostio ichi? Yn gyntaf, dylai eich sefydliad gofrestru â Dolen Teifi . Gellir trefnu hyn drwy swyddfa Llandysul a Phont Tyweli Ymlaen, ffoniwch 01559 362403. Mae ffi danysgrifio o £10 y flwyddyn, sy’n ein helpu gyda’n costau gweinyddu. Codir 65c y filltir ar grwpiau o’r maes parcio nes dychwelyd y bysiau mini. Mae 16 o seddau ar y bws.
Sut y gallwch chi archebu? Ewch i’r ddewislen a chlicio ar "Archebu’r Bws" i weld pa ddyddiadau sydd ar gael. Ffoniwch ein llinell archebu ar 01559362403 9.30am-4.30pm ddydd Llun i ddydd Gwener. Rhowch cymaint o rybudd â phosibl am eich siwrnai. Fe wnawn ein gorau i fodloni eich anghenion. Anelwn at helpu gynifer o bobl ag y gallwn.
Beth petaech chi’n canslo eich archeb? Mae ffi ganslo o £5 yn cael ei chodi, oni fyddwch yn rhoi 24 awr o rybudd.
|