BWYDO'R GYMUNED

01/07/2020

Mae un arall o fws mini Trafnidiaeth Gymunedol Dolen Teifi yn Llanelli yn cael ei ddefnyddio gan Fanc Bwyd Llwynhendy.  Yn ystod y Covid-19 mae criw fforwm Llwynhendy a Pemberton wedi bod yn brysur yn defnyddio bws mini Trafnidiaeth I Bawb i gasglu meddyginiaeth a dosbarthu parseli bwyd o'u banc bwyd i breswylwyr ledled Llanelli. Dywedodd Jason Heart, sy'n trefnu'r 20 gwirfoddolwr gyda'r Cynghorydd Sharen Davies, "fod caredigrwydd siopau mawr fel Morrisons, Marks and Spencer, Burns Pet Foods a'r cyhoedd ac ati wedi bod yn aruthrol. Rydym wedi cael ein llethu gan y caredigrwydd ganddynt i gyd ac rydym wrth ein bodd o allu dosbarthu'r parseli bwyd hyn i bobl yn y gymuned sydd ei wir angen". Llongyfarchiadau i bawb sy'n gysylltiedig a pharhau â'r gwaith da.


Dolenni yn agor ffenestr porwr newydd::
Llwynhendy & Pemberton Forum

Llun: Tom Jones (canol) nad yw wedi colli diwrnod yn cefnogi'r Banc Bwyd lleol hyd yn oed ar ei ben-blwydd yn ddeunaw oed!