Car Trydan Hygyrch MPV - Bws Bro Brechfa

28/11/2019

Yn ôl ym mis Tachwedd 2019, lansiodd Llandysul a Phont Tyweli Cyf gynllun ceir cymunedol cerbyd trydan newydd cyffrous yn Neuadd Bentref Brechfa.

Supported by Brechfa Forest West Wind Farm Community FundArglwydd Raglaw Dyfed, Sarah Edwards wnaeth lansio y Nissan MPV 200 newydd yn swyddogol. Cerbyd sydd wedi'i drosi'n arbennig i gludo 4 teithiwr ac un cadair olwyn. Dyma'r unig EV cwbl hygyrch, MPV sy'n cael ei weithredu gan sefydliad trafnidiaeth gymunedol yng Nghymru, os nad yr unig yn y DU. Fe'i arianwyd  drwy Gronfa Gymunedol Fferm Wynt Coedwig Brechfa. https://anturteifi.org.uk/brechfa-forest-wind-farm-community-fund/

Mae'r EV ar gael i gymunedau Brechfa, sy'n cynnwys rhannau Pencader, Llangfiagel ar Arth o Lanpumsaint i Llanllwni a'u hardaloedd cyfagos. Gall ei ddefnyddio ar gyfer rhannu ceir, teithiau pwrpasol i apwyntiadau meddygol mewn meddygfa leol, apwyntiadau ysbyty a theithiau cymdeithasol.

Darperir hyfforddiant llawn i'r gyrwyr i safon MPV MiDAS a gydnabyddir yn genedlaethol. Sefydlwyd  Dolen Teifi, fel prosiect Trafnidiaeth Gymunedol di-elw fel rhan o Llandysul a Phont Tyweli Ymlaen. Mae'r Ev yn ddull newydd ac arloesol sy'n mynd i'r afael â diffyg trafnidiaeth i wasanaethau allweddol a thlodi tanwydd a bydd yn helpu i leihau unigedd cymdeithasol drwy osod cerbydau'n ddwfn o fewn cymunedau er mwyn mynd i'r afael â diffyg trafnidiaeth.

Os oes gennych ddiddordeb mewn llogi'r car, bydd yn costio 45c y filltir. Mae gennym yrwyr gwirfoddol os oes angen gan eu bod wedi'u hyfforddi hyd at safon MiDAS. I archebu'r car i'w logi neu wybodaeth bellach cysylltwch â ni naill ai drwy ffonio 01559 362403 neu drwy e-bostio info@dolenteifi.org.uk

Dyma'r fideo o'r diwrnod.