Gellir defnyddio’r ceir hygyrch i gadeiriau olwyn ar gyfer y rhai sy’n dymuno mynd i apwyntiadau ysbyty a meddyg, deintydd, teithiau siopa ac ati. Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar bwrpas y daith.
Rhaid i yrwyr fod dros 21 oed ac wedi meddu ar drwydded yrru lawn am o leiaf ddwy flynedd.
Bydd angen i’ch gyrrwr enwebedig fod ar gael ar gyfer sesiwn gynefino fer gyda’r cerbyd a hyfforddiant ar ddefnyddio’r offer mynediad a diogelwch cadeiriau olwyn cyn defnyddio’r cerbyd am y tro cyntaf. Unwaith y bydd wedi’i hyfforddi, bydd eich gyrrwr enwebedig wedi’i gynnwys o dan ein hyswiriant. Os na allwch yrru’r car eich hun neu os nad oes gennych unrhyw un i yrru ar eich rhan, mae gennym yrwyr gwirfoddol ar gael. Ffoniwch ni i drafod ar 01559 362403. Mae gennym nifer o geir hygyrch wedi’u lleoli yn ein gwahanol ganolfannau cymunedol.
Mae gennym ddau fath o gar: -
Mae gennym geir MPV (cludwyr pobl) awtomatig hygyrch, sy’n gallu cludo un defnyddiwr cadair olwyn, ynghyd â hyd at dri theithiwr a’r gyrrwr. Mae gan y ceir winsh a mynediad ramp yn y cefn.
Gallwn ddarparu ar gyfer y rhan fwyaf o deithwyr, ond gofynnwch – rydym yn fwy na pharod i helpu gydag unrhyw anghenion.
A oes gennych gadair olwyn fawr? Mwy nag un defnyddiwr cadair olwyn? Grŵp mawr? Gallwch ddefnyddio un o’n bysiau mini hygyrch.
Mae gennym geir MPV awtomatig hygyrch trydan, sy’n gallu cludo un defnyddiwr cadair olwyn, ynghyd â hyd at dri theithiwr a’r gyrrwr.
Mae gan y car winsh trydan a mynediad ramp yn y cefn. Bydd y car wedi’i wefru’n llawn cyn i chi ei ddefnyddio. Ar gyfartaledd, gall y car deithio tua 100 milltir, ond mae hyn yn dibynnu ar y tirwedd – po fwyaf o fryniau, y mwyaf o drydan a ddefnyddir!
Os oes angen, gall Dolen Teifi ddarparu map i chi gyda’r mannau gwefru ar hyd eich llwybr.
Mae’r car yn awtomatig ac wrth gasglu’r cerbyd bydd wedi’i gysylltu â’r gwefrydd. Am ragor o wybodaeth ar sut mae’r cerbyd yn gweithio, gwyliwch y fideo isod neu argraffwch ein taflen wybodaeth.
I archebu bws neu un o’r ceir, ffoniwch ni ar 01559 362403 neu e-bostiwch ni ar [info@dolenteifi.org.uk](mailto:info@dolenteifi.org.uk).
Dros y blynyddoedd, mae Dolen Teifi Community Transport wedi gweithio gyda nifer o bartneriaid ar rai prosiectau gwych. Cymerwch amser i ddarllen am ein prosiectau Trafnidiaeth Gymunedol.











