Cefnogi Cymunedau
01/06/2020
Rydym wedi darparu un bws i fod ar gael i Help Llandysul, grŵp sydd wedi'i sefydlu mewn ymateb i'r heriau sy'n gysylltiedig â Covid-19 i gynorthwyo unigolion neu deuluoedd sy'n rhaid iddynt amddiffyn neu sydd angen cymorth i gael siopa neu i'r ysbyty.
Helpu Llandysul a'r ardal er mwyn helpu'r gymuned, a chrëwyd rhwydwaith o dros 30 o wirfoddolwyr yn ystod yr wythnosau cyntaf. Dywedodd Matt fod y bws mini "wedi bod yn ddefnyddiol iawn pan nad oedd yn bosibl i bobl rannu cerbyd yn y ffordd arferol. Yr ydym wedi bod yn casglu pobl sy'n byw y tu allan i Llandysul i fynd â hwy i'r feddygfa, hefyd wedi trefnu i gasglu pobl y mae angen iddynt fynd i'r ysbyty yng Nghaerfyrddin i gael triniaeth. Rydym wedi dosbarthu bwyd, dillad plant, a nwyddau cartref eraill i bobl ar ran Banc Bwyd Llandysul a sefydliad newydd 'Plantos'. Roedd un pensiynwr yn methu cyrraedd y swyddfa bost, i gael ei bensiwn na thalu ei rent, roeddem yn gallu ei gasglu bob pythefnos a roedd y bws yn ei alluogi i wneud y pethau hanfodol hyn.
Yn ogystal, defnyddiwyd y bws mini i helpu teulu ifanc ddigartref i symud i hostel argyfwng yn Aberystwyth. Heb y bws mini ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl, mae hyn i gyd wedi'i wneud gan wirfoddolwyr lleol ac mae'n dyst i'r gymuned glos sydd gennym yn Llandysul".
Dolenni yn agor ffenestr porwr newydd:
HELP! Llandysul - Pont Tyweli a'r ardal / and area
Banc Bwyd Llandysul Food Bank
Delwedd o Matt Adams yn defnyddio bws mini Dolen Teifi wedi'i fenthyg i "Helpu Llandysul a'r Ardal" gyda chymorth ei blant yn ymateb i anghenion Llandysul a chymunedau cefnwlad.