Dolen Teifi Trafnidiaeth Gymunedol Llwyddiant Cronfa Loteri Fawr
31/08/2014
Ym mis Awst 2014, sicrhawyd £245,644 o gyllid gan gyllid grant y Loteri Fawr, Pobl a Lleoedd i gyflwyno prosiect sy'n darparu dau fws mini 13 ac 16 sedd cwbl hygyrch, sydd wedi'u lleoli yng Nghaerfyrddin a Llanelli. Mae'r bysiau mini ar gael i grwpiau / sefydliadau i ddarparu mynediad i wasanaethau cymunedol hanfodol, sy'n hyrwyddo gweithgarwch cymunedol, cynhwysiant cymdeithasol, cydlyniant cymunedol, adfywio, iechyd gwledig, lles ac adferiad o broblemau iechyd meddwl. Mae aelodau'r Pwyllgor wedi rhoi oriau lawer i helpu i gyflawni'r cyllid hwn ac yn gwerthfawrogi'n fawr y gefnogaeth gan CAVO, WWAMH a CGGC
Diben ein prosiect yw ehangu ein Cynllun Trafnidiaeth Gymunedol presennol i Sir Gaerfyrddin gan alluogi pobl sydd wedi'u hynysu mewn ardaloedd gwledig, gan gynnwys pobl hŷn, a'r rhai ag anableddau a materion iechyd meddwl i gael mynediad at drafnidiaeth i weithgareddau a gwasanaethau. Bydd cyfleoedd newydd i wirfoddolwyr yn cael eu datblygu drwy ddarparu hyfforddiant MiDAS ar gyfer gyrwyr gwirfoddol.
Roedd y prosiect yn cyflogi aelod llawn amser o staff sydd wedi datblygu'r cynllun trafnidiaeth gymunedol yn Sir Gaerfyrddin i grwpiau cymunedol ac i recriwtio a chydlynu gyrwyr gwirfoddol.